Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (80) |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30.
Gofynnwyd y 13 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.32.
3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Ymchwiliad Robert Powell
Dechreuodd yr eitem am 14.49.
4. Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol
Dechreuodd yr eitem am 15:20
5. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Ad-drefnu Addysg Uwch yn ne-ddwyrain Cymru
Dechreuodd yr eitem am 16:09
6. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Remploy
Dechreuodd yr eitem am 16:53
7. Datganiad gan y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth: Adroddiad Grŵp Gorchwyl a Gorffen Ardaloedd Twf Lleol Powys
Dechreuodd yr eitem am 17:21
8. Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau: Trydanu
Dechreuodd yr eitem am 18:00
9. Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 - Gohirwyd tan 18 Gorffennaf
10. Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Diddymu Arolygiaeth Gweinyddiaeth Llysoedd Ei Mawrhydi a Bwrdd y Gwarcheidwad Cyhoeddus) 2012 - Gohirwyd tan 18 Gorffennaf
11. Rheoliadau Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco (Arddangos Prisiau) (Cymru) 2012 - Gohirwyd tan 18 Gorffennaf
12. Dadl ar y Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2012-13
Dechreuodd yr eitem am 18:37
Gohiriwyd y bleidlais ar y
cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
NDM5026 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2012-13 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau’r Cynulliad ddydd Mawrth, 26 Mehefin 2012.
Troednodyn:
Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:
(i) y datganiad ysgrifenedig sy’n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;
(ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;
(iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;
(iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i’w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a’r symiau yr awdurdodir eu talu o’r Gronfa yn y cynnig; a
(v) cysoniad rhwng yr adnoddau i’w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o’r Ddeddf a’r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).
Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:
- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
32 |
22 |
0 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 19:09.
Daeth y cyfarfod i ben am 19:10
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 18 Gorffennaf 2012